Croeso i Theatr Twm o'r Nant Dinbych

Ein Hanes

Mae hanes yr adeilad sydd bellach yn Theatr Twm o’r Nant yn cychwyn ym 1890,
pan adeiladodd y Dr Evan Pierce neuadd goffa er cof am ei fam a’i chyflwyno i bobl Dinbych.
Saif y theatr, sydd bellach wedi ei hadnewyddu, ar Ffordd yr Orsaf, rownd y gornel o Erddi
Coffa’r Dr Evan Pierce yn Stryd y Dyffryn, ble mae cerflun 8 troedfedd o uchder mewn Marmor
Eidalaidd o’r doctor. Bu farw yn 87 mlwydd oed ym 1895. Mae’n sefyll
ar ben colofn  carreg galch 72 troedfedd ouchder a gloddiwyd o Chwarel y Graig gerllaw.
Fe gafodd y gerddi eu hadnewyddu yn ddiweddar ac fe all y cyn faer, a fu unwaith yn
gweinyddu gelod am swllt yr un, edrych i lawr ar brosiect cyffelyb yn yr adeilad a gododd er
cof am ei fam.

Nid yw’n wybyddus beth fyddai’r doctor, Weslead pybyr, er iddo unwaith gael ei
wahardd rhag derbyn y cymun oherwydd ei dyngu a rhegi mynych, wedi ei wneud o’r drwydded.
Amdanom Ni

Adeiladwyd yn y lle cyntaf ym 1890 fel
Neuadd Goffa gan y Dr Evan Pierce sydd â’i
gerflun i’w weld yng Ngerddi Coffa Dr Evan
Pierce 50 metr i ffwrdd o’r adeilad.

Mae Theatr Twm o’r Nant yn theatr weithredol
ac ynddi
- Eisteddle i 118 ynghyd â lleoedd i
ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
- Llwyfan prosceniwm, ystafelloedd newid ac
awditoriwm ar ogwydd a uwchraddiwyd yn
ddiweddar
- Systemau sain a goleuo diweddaraf
- Taflunydd ffilm a sgrin maint llawn gyda sain
cwmpasu Dyleb
- Cyfleusterau cynhwysfawr ar gyfer yr anabl
gan gynnwys mynediad i’r llwyfan
- Cyfleusterau arlwyo trwyddedig

Mae’r theatr gymunedol hon yn llwyfannu nid
yn unig cynyrchiadau drama broffesiynol ac
amatur, ond yn ogystal dangosiadau cinema,
digwyddiadau cerdd a dawns. Fe’i defnyddir
yn helaeth ar gyfer ymarferiadau gan fandiau
lleol a grwpiau drama, yn ogystal â chan
fyfyrwyr unigol.

Nid oes problem parcio ac mae dau ofod parcio
i’r anabl ar y safle. Mae’r theatr yn lleoliad
perffaith ar gyfer cynadleddau, achlysuron
busnes ac mae ar gael ar gyfer ei llogi.
Theatr Twm o'r Nant
Ffordd yr Orsaf
Dinbych LL16 3DA

Cyswllt: Gwyneth Kensler (01745 814323)
Symudol: 07792 315723
neu Gaynor Morgan Rees (01745 812349)
Symudol: 07791 699361
Ebost: info@theatr-twm-or-nant.org.uk