HomeAbout Us  |   Future Events  |  Our Gallery   |    Ticket Sales    |   Venue Hire   |   Finding Us   | Contact Us  |   Links   |  Sitemap
Theatr Twm o'r Nant
Station Road
Denbigh LL16 3DA

Contact: Gwyneth Kensler (01745 814323)
Mobile: 07792 315723
or Gaynor Morgan-Rees (01745 812349)
Mobile: 07791 699361
Email: info@theatr-twm-or-nant.org.uk

CYFANSODDIAD
CYMDEITHAS THEATR TWM O'R NANT
PWRPAS:

a)    Hyrwyddo, cynnal a hybu addysg y cyhoedd yng nghymuned Dinbych a'r cyffiniau mewn celfyddyd drama, drama amatur, sinema a cherddoriaeth a hyrwyddo'r theatr fel cyfleuster cymunedol ac un sydd i'w defnyddio gan fusnesau a chyrff cyhoeddus.
b)    Wrth hybu 1a) - cynorthwyo cyrff elusenol eraill mewn perthynas â'r Celfyddydau.
c)    Caffael, casglu a derbyn arian a chronfeydd arian drwy gyfrwng cyfraniadau, rhoddion, tadogaeth, ffïoedd, tanysgrifiadau, cymunroddion, grantiau a  dulliau cyfrithlon eraill a derbyn rhoddion ar lun eiddo o unrhyw fath a un a yw'n wrthrych unrhyw ymddiriedolaeth a'i peidio.

2. AELODAETH

    Bydd yn agored i bob unigolyn dros 16 mlwydd oed.

3. CYFRANIAD BLYNYDDOL
    I'w bennu yn y CCB
4. CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL (CCB)
    Byddir yn cynnal y CCB yn Mis Tachwedd bob blwyddyn. Ni fydd i'r Ysgrifennydd roi llai na 14 diwrnod o rybydd o ddyddiad, amser a lle'r cyfarfod ac fe ddylid anfon gydag ef yr Adroddiad Blynyddol a Mantoled y Cyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol. Gall yr Aelodau annerch  y Cyfarfod naill ai yn Gymraeg neu Saesneg neu yn y ddwy iaith. Fe all y Cadeirydd  neu dri aelod o'r pwyllgoralw Cyfarfod Cyffredinol Arbennig (CCA) unrhyw adeg, gan roi rhesymau am gais o'r fath. Rhaid rhoi rhybydd o o leiaf 14 diwrnod parthed cyfarfod o'r fath.

5. Y SWYDDOGION A'R PWYLLGOR:
a) Gall bod Cadeirydd, Is-gadeirydd, Ysgrifennydd, Swyddog Llogi, Trysorydd ac Archwilydd a gânt eu penodi yn y CCB bob blwyddyn ac fe ellir yn eu tro eu barnu'n gymwys i'w hailethol. Bydd  y Cadeirydd yn Cadeirio'r CCB a phob cyfarfod arall o'r Gymdeithas neu o Bwyllgor Gwaith. Os yw'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd y ddau ohonynt yn absennol ar unrhyw adeg fe aiff y pwyllgor ymlaen i ethol Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwnnw o blith yr aelodau sy'n bresennol. Byddir yn rhoi adroddiad yn flynyddol i'r landlordiaid.

b)Bydd y Y PWYLLGOR GWAITH yn cael ei ethol ym mhob CCB ac fe fydd yn agored i'w ailethol ac fe fydd yn cynnwys deng aelod o'r aelodau fel yn 2, ac o'r cyfryw fe fydd chwech yn ffurfio cworwm.

d)    Y Pwyllgor Rheoli fydd yn penderfynu ffurfio is-bwyllgorau a chyfethol rhai nad ydynt aelodau ar yr is-bwyllgorau hyn a chyntuo ar bwerau dirprwyo a chylch gorchwyl.

6. PLEIDLEISIO:
    a) Mewn cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli byddir yn pennu ar unrhyw gwestiwn drwy godi dwylo os nad mewn achos pryd y mae dim llai na theruan o'r bobl sy'n bresennol yn hawlio pleidlais gudd. Bydd Cadeirydd unrhyw bwyllgor â'r hawl bleidlais ddyfarnu pan fo'r pleidleisiau'n gyfartal.

7. CYLLID:

a)    Bydd y Pwyllgor Gwaith yn awdurdodedig i weinyddu'r cyfryw arian a roddir at ei ddefnydd o bryd i'w gilydd er mwyn hyrwyddo Amcanion y Gymdeithas.
b)    Bydd i arian y Gymdeithas gael ei gymhwyso yn unig tuag at amcanion daganiedig y Gymdeithas.
c)    Ni fydd i'r un aelod o'r Gymdeithas dderbyn tâl naill â'i uniongyrchol nac yn anuniongyrchol am wasanaeth i'r Gymdeithas heblaw am gostau dilys.

8. Y FLWYDDYN ARIANNOL;
    Bydd y Flwyddyn Ariannol o Hydref 1af hyd Medi 30ain.

9. NEWID I'R CYFANSODDIAD
Gellir gwneud unrhyw newidiadau, atodiadau neu ychwanegiadau i'r cyfansoddiad hwn yn  CCB y Pwyllgor drwy bleidlais o ddwy ran o dair o'r aelodau sy'n bresennol ac yn pleidleisio. Rhaid rhoi rhybudd o unrhyw gynnig parthed newid, atodiad neu ychwanegiad yn ysgrifenedig i'r Ysgrifennydd 21 diwrnod cyflawn cyn y cyfarfod ond ni ellir gwneud unrhyw newid i Rif 1(PWRPASAU) nac i Rif 10 (CAU PEN Y MWDWL) heb ganiatâd ymlaen llaw gan y Comisiwn Elusennau. Ni ellir gwneud unrhyw newid a fyddai'n achosi'r Elusen i beidio â bod yn elusennol o dan y ddeddf.

CAU PEN Y MWDWL
Os penderfynir dirwyn i ben gwaith y Gymdeithas ni fydd unrhyw arian neu eiddo sy'n perthyn i'r gymdeithas ar ôl talu costau ac atebolrwydd a aethpwyd iddo  i'w ddosbarthu i'w haelodau ond yn hytrach ei drosglwyddo i ryw Elusen neu Elusennau eraill gydag amcanion cyffelyb i rai'r Gymdeithas neu i ryw Elusen arall.

Mabwysiadwyd: Tachwedd 21 1975: Addaswyd Mawrth 15 2004; Addaswyd Tachwedd 19 2007.

Cadeirydd: