Croeso i Theatr Twm o’r Nant, Dinbych © 2011 Website Designed By Urban Canvas Design Elusen Gofrestredig 504787 Theatr Twm o'r Nant, Ffordd yr Orsaf, Dinbych LL16 3DA Cyswllt: Gwyneth Kensler (01745 814323) Symudol: 07792 315723 neu Gaynor Morgan-Rees (01745 812349) Symudol:07791 699361 Ebost: info@theatr-twm-or-nant.org.uk             Cartref Amdanom ni Adeiladwyd yn y lle cyntaf ym 1860 fel Neuadd Goffa gan y Dr Evan Pierce sydd â'i gerflun i'w weld yng Ngerddi Coffa Dr Evan Pierce 50 metr i ffwrdd o'r adeilad. Mae Theatr Twm o'r Nant yn theatr weithredol ac ynddi " Eisteddle i 118 ynghyd â lleoedd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. " Llwyfan prosceniwm, ystafelloedd newid ac awditoriwm ar ogwydd a uwchraddiwyd yn ddiweddar " Systemau sain a goleuo diweddaraf " Taflunydd ffilm a sgrin maint llawn gyda sain cwmpasu Dyleb " Cyfleusterau cynhwysfawr ar gyfer yr anabl gan gynnwys mynediad i'r llwyfan " Cyfleusterau arlwyo trwyddedig Mae'r theatr gymunedol hon yn llwyfannu nid yn unig cynyrchiadau drama broffesiynol ac amatur, ond yn ogystal dangosiadau cinema, digwyddiadau cerdd a dawns. Fe'i defnyddir yn helaeth ar gyfer ymarferiadau gan fandiau lleol a grwpiau drama, yn ogystal â chan fyfyrwyr unigol. Nid oes problem parcio ac mae dau ofod parcio i'r anabl ar y safle. Mae'r theatr yn lleoliad perffaith ar gyfer cynadleddau, achlysuron busnes ac mae ar gael ar gyfer ei llogi. Pam nad ymunwch chi â'n grŵp llythyru - rhestr gyswllt  contactlist@theatr-twm-or-nant.org.uk Ein hanes Mae hanes yr adeilad sydd bellach yn Theatr Twm o'r Nant yn cychwyn ym 1890, pan adeiladodd y Dr Evan Pierce neuadd goffa er cof am ei fam a'i chyflwyno i bobl Dinbych. Saif y theatr, sydd bellach wedi ei hadnewyddu, ar Ffordd yr Orsaf, rownd y gornel o Erddi Coffa'r Dr Evan Pierce yn Stryd y Dyffryn, ble mae cerflun 8 troedfedd o uchder mewn Marmor Eidalaidd o'r doctor. Bu farw yn 87 mlwydd oed ym 1895. Mae'n sefyll ar ben colofn  carreg galch 72 troedfedd o uchder a gloddiwyd o Chwarel y Graig gerllaw. Fe gafodd y gerddi eu hadnewyddu yn ddiweddar ac fe all y cyn faer, a fu unwaith yn gweinyddu gelod am swllt yr un, edrych i lawr ar brosiect cyffelyb yn yr adeilad a gododd er cof am ei fam. Nid yw'n wybyddus beth fyddai'r doctor, Weslead pybyr, er iddo unwaith gael ei wahardd rhag derbyn y cymun oherwydd ei dyngu a rhegi mynych, wedi ei wneud o'r drwydded gwirodydd. Roedd y Dr Pierce yn dipyn o gymeriad a briododd wraig o'r enw Mis Brandon (ai'i ffortiwn o £10,000) pan oedd eisoes yn 79 mlwydd oed. Yr oedd iddo yn sicr elfen elusengar. Pan oedd yn grwner yn yr archwiliad i ddamwain yr 'Irish Mail'  Abergele ym 1888, pryd y cafodd 33 o bobl eu llosgi i farwolaeth, fe roddodd hanner coron i'r unig dyst, bachgen naw mlwydd oed, iddo brynu mefus ym marchnad Abergele. Fe wnaeth ei enw yn ystod haint Colera Dinbych ym 1832, pan fu farw 300 o bobl, 10% o boblogaeth y dref ac yr oedd yn dal i weithredu fel meddyg 60 mlynedd yn ddiweddarach. Mae lôn gerllaw Henllan a adwaenir fel 'Naid y Doctor'  sy'n deillio o'r adeg pan fyddai'n bywiogi ei gylchdaith wledig drwy neidio ar ei geffyl dros y llwybr cul. Fel cymwynaswr y dref, nid oes amheuaeth na fyddai wrth ei fodd fod yr adeilad wedi goroesi ac yn cael ei ddefnyddio fel caffaeliad cymunedol gwerthfawr. Newyddion am y digwyddiadau i ddod