HomeAbout Us  |   Future Events  |  Our Gallery   |    Ticket Sales    |   Venue Hire   |   Finding Us   | Contact Us  |   Links   |  Sitemap
Theatr Twm o'r Nant
Station Road
Denbigh LL16 3DA

Contact: Gwyneth Kensler (01745 814323)
Mobile: 07792 315723
or Gaynor Morgan-Rees (01745 812349)
Mobile: 07791 699361
Email: info@theatr-twm-or-nant.org.uk


THEATR TWM O'R NANT

POLISI AMDDIFFYN PLANT

DATGANIAD CYFFREDINOL

Mae Pwyllgor Rheoli Theatr Twm o'r Nant yn credu ei bod hi'n annerbyniol bob amser i blentyn neu berson ifanc brofi camdriniaeth o unrhyw fath ac mae'n cydnabod ei gyfrifoldeb i ddiogelu lles pob plentyn a pherson ifanc drwy ymrwymiad i ymarfer yr hyn sy'n eu diogelu.

Yr ydym ni'n cydnabod bod
"    Lles plentyn/person ifanc o'r pwys mwyaf
"    Pob plentyn, waeth beth yw ei oedran, anabledd, ryw, dreftadaeth hiliol, gred grefyddol, ogwydd rhywiol neu hunaniaeth, yn meddu ar yr hawl i amddiffyniad cyfartal rhag pob math o niwed neu gamdriniaeth
"    Gweithio mewn partneriaeth â phlant, pobl ifanc, eu rhieni eu gofalwyr ac asiantaethau eraill yn hanfodol mewn hyrwyddo lles pobl.

Pwrpas y polisi
"    Darparu amddiffyniad ar gyfer y plant a'r bobl ifanc sy'n derbyn gwasanaethau Twm o'r Nant, gan gynnwys plant aelodau neu ddefnyddwyr h?n
"    Darparu cyfarwyddyd i staff a gwirfoddolwyr ar y gweithdrefnau y dylent eu mabwysiadu os digwydd iddynt amau y gall plentyn neu berson ifanc fod mewn perygl, neu o dderbyn niwed.

Mae'r polisi yn cymhwyso i'r holl staff, gwirfoddolwyr, staff asiantaeth, myfyrwyr neu unrhyw un sy'n gweithio ar ran Theatr Twm o'r Nant.
Fe fyddwn ni'n ceisio diogelu plant a phobl ifanc drwy:
"    Roi gwerth arnynt, gwrando arnynt a'u parchu
"    Fabwysiadu canllawiau amddiffyn plant drwy gyfrwng gweithdrefnau a chod ymarfer ar gyfer staff a gwirfoddolwyr
"    Recriwtio staff a gwirfoddolwyr yn ddiogel, gan sicrhau bod yr holl wiriadau angenrheidiol yn cael eu gwneud
"    Rannu gwybodaeth yngl?n â phryderon gydag asiantaethau y mae angen iddynt wybod, ac ymwneud â rhieni a phlant yn briodol
"    Ddarparu rheolaeth effeithiol i staff a gwirfoddolwyr drwy oruchwylio, cefnogaeth a hyfforddiant.
Yr ydym hefyd wedi ymrwymo i adolygu ein polisi a'n ymarfer da yn flynyddol.
Ysgrifennwyd Ebrill 1 2007  Mabwysiadwyd M14 2007 Arwyddwyd gan y Cadeirydd Dyddiad