Llogi'r Theatr

Mae Theatr Twm o’r Nant ar gael ar gyfer ei llogi i unigolion, grwpiau a busnesau a - gyda’i chyfleusterau unigryw a chyfforddus - y mae’n lleoliad ardderchog ar gyfer cyngherddau, dramâu, dangosiadau a seminarau neu gynadleddau; y mae hefyd yn fan ymarfer delfrydol. Fe ellir ei llogi yn ystod y dydd yn ogystal ag ar gyfer digwyddiadau min nos. Mae oriel arddangos ar gael ar gyfer arddangosfeydd celf.


Y cam cyntaf ar gyfer defnyddwyr o bosibl fyddai archwilio’r wybodaeth ar y wefan hon ac yna cysylltu â’r Swyddog Llogi i drafod y gofynion yn fanwl. Cliciwch os gwelwch yn dda ar y gwahanol ffurflenni isod am wybodaeth neu er mwyn gwneud cais llogi. Fe ddylai cipolwg ar y calendr argaeledd ei gwneud hi’n eglur pa bryd y mae’r theatr eisoes yn cael ei defnyddio.


Mae iddi ddau fan parcio i’r anabl yn cwrt blaen ac mae mynedfeydd i’r anabl ar gyfer perfformwyr llwyfan, cyfranogwyr a chynulleidfa; mae’r theatr yn cynnwys dolenni clywed.



AMODAU AR GYFER LLOGI THEATR TWM O'R NANT, DINBYCH
Manylion Technegol y Theatr   |  Amodau Llogi   |  Ein Prisiau   |  Ffurflen Llogi ar lein
Theatr Twm o'r Nant
Ffordd yr Orsaf
Dinbych LL16 3DA

Cyswllt: Gwyneth Kensler (01745 814323)
Symudol: 07792 315723
neu Gaynor Morgan Rees (01745 812349)
Symudol: 07791 699361
Ebost: info@theatr-twm-or-nant.org.uk