Theatr Twm o'r Nant Dinbych
POLISI CYFLEOEDD CYFARTAL
Mae Theatr Twm o'r Nant wedi ymrwymo i bolisi ac arferiad cyfleoedd cyfartal a bydd yn sicrhau y trinir pob gweithiwr a defnyddiwr, yn awr ac yn y dyfodol, yn gyfartal ac fel unigolion heb ystyried oed, anabledd, tarddiad ethnig na chededl, rhyw, statws priodasol neu fel rhiant, daliadau gwleidyddol, nac ar sail hil, crefydd neu rywioldeb.
Wrth weithredu'r polisi hwn, bydd Theatr Twm o'r Nant yn ystyried deddfwriaeth sydd mewn bodolaeth: Deddf Welliant Cysylltiadau Hiliol 2000, Deddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw 1975, Deddf Cyflog Cyfartal 1970, Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 - ac unrhyw ddeddfwriaeth ddiweddarach.
Gweithredir y polisi cyfleoedd cyfartal hwn ar draws pob agwedd o waith y theatr:
" apwyntio aelodau o'r Pwyllgor Rheoli
" apwyntio staff
" ymwneud â'r cyhoedd a defnyddwyr.
PWYLLGOR RHEOLI
Bydd Theatr Twm o'r Nant yn anelu at sicrhau bod y Pwyllgor Rheoli yn gynrychiolaeth o'r gymuned a'r defnyddwyr. Bydd y Pwyllgor Rheoli'n gyfrifol am sicrhau bod y polisi cyfleoedd cyfartal yn cael ei weithredu, ei arolygu a'i adolygu. Bydd aelodau'n llwyr ymwybodol o'u hymrwymiadau.
STAFFIO/GWIRFODDOLI
Bydd y theatr yn sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd am swydd, gweithiwr na gwirfoddolwr yn cael ei drin yn llai ffafriol na pherson arall ar sail oed, anabledd, tarddiad ethnig, statws priodasol neu fel rhiant, daliadau gweleidyddol, crefydd, rhyw neu rywioldeb. Bydd pob gwirfoddolwr a phob darpar weithiwr yn cael ei hysbysu o bolisi cyfleoedd cyfartal y theatr a bydd y theatr yn sicrhau ei bod yn cydnabod ac yn ymateb mewn modd briodol i anghenion newidiol a datblygol staff dichonadwy a gwirfoddolwyr.
Y CYHOEDD A DEFNYDDWYR
Mae'r theatr yn anelu at agor ei gwasanaethau at ystod mor eang â phosibl o'r cyhoedd.
Bydd y theatr o fewn cyrraedd i bawb sy'n anabl.
Lle bynnag y bo'n bosibl, bydd cynllun deunydd cyhoeddusrwydd yn ystyried anghenion pobl anabl yn nhermau print, diwyg a'r gwybodaeth sydd ar gael.
Bydd pobl o garfanau nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol yn cael eu hannog i ddod ac i gymryd rhan.
Mabwysiadwyd 31 Gorffennaf 2006