Contact: 01745 812349 / 07792 315723
Cymraeg
performers on stage

Clwb Ffilm Dinbych

Clwb ffilm gorau yn Ninbych

Yn dangos pedweydd Nos Wener bob mîs

Dydd-berfformiadau - ail dydd Mercher bob mîs

Ewch i wefan Clwb Ffilm Dinbych am restr lawn a’r amseroedd cychwyn

SYLWCH NAD OES SGRINIO YN YSTOD GORFFENNAF AC AWST

Rydym yn sinema gymunedol wedi ei lleoli yn y theatr ac yn dangos rhaglen amrywiol o ffilmiau rhwng Medi a'r Mehefin ganlynol. Rydym yn dangos deg ffilm y flwyddyn fel rhan o'n rhaglen flynyddol, yn ogystal â chyflwyniadau arbennig a "FREE Vintage Matinees" trwy gydol y flwyddyn. Ein nôd yw dangos amrywiaeth eang o ffilmiau a fydd yn apelio at bawb, o Sinemau'r Byd a hen glasuron i ambell "Hollywood Blockbuster”.

Aelodaeth

Mae aelodaeth blynyddol o £25 yn caniatau i chi wylio pob ffilm am y flwyddyn - dyna £2.50 y ffilm sydd, yn ein barn ni, yn fargen. Pris mynediad heb aelodaeth yw £5 y ffilm. Mae cost mynediad i'n cyflwyniadau arbenning yn £5 i bawb, aelodau a’r rhai heb aelodaeth, sy’n eu gwneud yn fforddiadwy i bawb yn y gymuned.

Lluniaeth

Gwin, diodydd poeth, hufen ia, fferins, creision ar gael am brisiau cystadleuol.

Does dim byd tebyg i weld ffilm ar sgrin fawr, a gobeithiwn y gallwch ymuno â ni yn Theatr Twm o'r Nant cyn bo hir am noson i’w chofio!