Contact: 01745 812349 / 07919 912743
Cymraeg

Yn Blwmp ac yn Blaen gan Cefin Roberts – Nos Sadwrn, Ionawr y 27ain am 7:30pm

I ddathlu cyrraedd oed yr addewid dwi am fentro yn ôl i’r llwyfan ar fy liwt ac ar fy mhen fy hun y tro yma. Prysuraf i ddweud nad cyrraedd rhyw oedran arbennig sydd wedi fy sbarduno eleni ond y ffaith imi dderbyn anrheg hyfryd drwy’r post rhyw ychydig wythnosau cyn y clo mawr cyntaf yn 2020. Roedd agor y parsel a darganfod mai drama un dyn wedi ei sgwennu’n arbennig i mi gan fy ffrind annwyl, Aled Jones Williams, oedd y tu mewn yn lleddfu cryn dipyn ar wythnosau ynysig Ebrill a Mai 2020.Ces gyfle i’w llwyfannu i gynulleidfa gyfyngedig gyda Theatr Bara Caws pan oedd covid 19 yn dal i greu ei lanast ar gynulleidfaoedd led-led y wlad. Rhan o drioleg oedd Y Dyn Gwyn yn wreiddiol yn dwyn y teitl Lleisiau a bydd y perfformiadau hynny i’w gweld ar wefan Bara Caws cyn bo hir. Ond r’on i’n gyndyn o adael i’r ddrama fynd a minnau ond wedi cael cyfle i’w pherfformio am bedair noson. Mi dwi a’r dyn gwyn yn hen lawia erbyn hyn ac yn gobeithio’n arw y dowch chi draw i’n gweld ar daith go bwysig yn fy ngyrfa i. Mae Aled am ymuno hefo fi ambell noson am sgwrs ac mi fydda i hefyd yn lansio ac yn darllen ambell bennod o’m hunangofiant, Yn Blwmp ac yn Blaen, i gloi fy nghyflwyniad.Medd Aled am Lleisiau:’Yr wyf yn pwysleisio nad am Cofid y maent! Ond… o’r cyfnod hwnnw y tasgant. Felly ynddynt ceir ymdeimlad o baranoia ac o fyd lle mae pobl yn byw dan fygythiad sy’n aml yn ymylu ar drais.’

Dyma ymateb i’r perfformiad cyntaf o Y Dyn Gwyn:

Roedd Gohebydd Celfyddydau Golwg ymysg y cyntaf i weld dramâu newydd Aled Jones Williams ar gyrion Caernarfon neithiwr (nos Lun, Gorffennaf 11 – 2022). Cafodd y tair dramodig y parch maen nhw’n ei haeddu gan griw glew o actorion, yn cynnwys Cefin Roberts, Maureen Rhys, John Ogwen, a Valmai Jones, yn ôl Non Tudur. Dyma ei hargraffiadau o Lleisiau…

Non Tudur

Mae hi’n ddigon posib fod torf fach ar stad ddiwydiannol ar gyrion Caernarfon nos Lun wedi cael y fraint o wylio un o’r cynyrchiadau theatr gorau erioed yn yr iaith Gymraeg.
Cefin Roberts oedd ‘Y Dyn Gwyn’ mewn monolog newydd gan Aled Jones Williams, ac roedd yn ei berfformio yn uned cwmni Bara Caws ar stad ddiwydiannol Cibyn o flaen torf fach a’r wasg. Hon oedd y cyntaf o dair drama fer ar y noson, y tair yn cael eu perfformio gan rai o fawrion byd y theatr (ac i gyd yn sylfaenwyr gwreiddiol cwmni Bara Caws yn y 1970au neu wedi gweithio gyda’r cwmni).